Gweinyddwr Gwasanaethau Pobl
Cymru
Gweinyddwr Gwasanaethau Pobl (Swydd Tymor Penodol o 6 mis)
Rhan-amser (Dydd Mercher, Iau a Gwener)
Mae cyfle prin a chyffrous wedi codi i chi ymuno â Thîm Gwasanaethau Pobl Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Rydym yn dîm blaengar a deinamig sy'n cynnwys Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch, Gwasanaethau Democrataidd, a Gwirfoddoli. Rydym yn ymwneud â rhai prosiectau heriol a diddorol gan gynnwys gweithredu'r Adolygiad Cyflogau a Graddfeydd; integreiddio Gwirfoddoli i’n tîm, lles gweithwyr a llu o brosiectau eraill i ategu Cynllun Corfforaethol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Os ydych yn weinyddwr profiadol ac yn chwaraewr tîm sydd am ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad ar draws ystod eang o dasgau mewn amgylchedd cyfeillgar a chadarnhaol, yna hoffem glywed gennych.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos:
• Gwybodaeth am Adnoddau Dynol ac Iechyd a Diogelwch.
• Sgiliau trefnu.
• Sgiliau rhyngbersonol cadarn a phrofiad o weithio mewn tîm.
• Profiad o weithio i derfynau amser.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £24,702- £25,979 pro rata y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau: 26/10/2024
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.