Working with Us

Current Vacancies

Mynediad/Rheoli Hawliau Tramwy

Arweinydd Tîm Mynediad

Cymru

Job Ref
ATL325
Location
Cymru

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Arweinydd Tîm Mynediad
Llawn amser 37 awr yr wythnos – Parhaol

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn un o ardaloedd gwarchodedig mwyaf eiconig Prydain, yn gartref i 186 milltir o arfordir syfrdanol a chynefinoedd amrywiol, gyda rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol Prydain. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, y rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus cofrestredig a’r tir mynediad dynodedig, yn gyfleoedd i fwynhau rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Mynediad i reoli'r gwaith hwn gan sicrhau bod yr Awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol.

Fel yr Arweinydd Tîm Mynediad, byddwch yn rheoli'r gwaith o gynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus. Byddwch yn rhoi arweiniad ar safonau cynnal a chadw ar gyfer rheoli arwyneb, seilwaith a llystyfiant, a threfnu arolygon ac archwiliadau bob hyn a hyn o gyflwr y rhwydwaith. Hefyd byddwch yn rheoli cyllidebau ac yn cyrchu rhaglenni gwella.

Byddwch yn gyfrifol am reoli'r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r Swyddog Llwybr Cenedlaethol.

Yn ogystal â rhoi cyngor a pharatoi polisïau a chynlluniau perthnasol, byddwch yn monitro ac yn adrodd ar berfformiad ac yn ymateb i ymgynghoriadau statudol ac anstatudol.

Byddwch yn ymgymryd â gweithdrefnau cyfreithiol sy'n effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus i addasu a diogelu'r rhwydwaith, gan gynnwys dargyfeirio a chreu llwybrau cyhoeddus, cau llwybrau dros dro, a chamau gorfodi.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol:
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol.
• Gwybodaeth ymarferol fanwl a phrofiad o fynediad i gefn gwlad, cyfraith a rheolaeth hawliau tramwy cyhoeddus.
• Sgiliau cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar) a rhyngbersonol effeithiol, a phrofiad o baratoi adroddiadau a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu ag ystod o gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid o fewn a thu allan i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol.
• Galluoedd trefnu rhagorol a phrofiad profedig o gynllunio, blaenoriaethu a gweithio i derfynau amser a thargedau, ac o fewn y gyllideb.
• Profiad o reolwr llinell.

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

Cyflog a Buddion:
Cyflog o £41,511 - £44,711 y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion beth bynnag fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Ddim y cyfle iawn i chi am swydd? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.

Dyddiad Cau: 27/04/2025


Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.

Function
Mynediad/Rheoli Hawliau Tramwy
Status
Amser llawn
Type
Parhaol
Hours
37

Share this vacancy

Job Alerts

Can’t see the role you want? Register your details with us to be notified when we’re hiring!