Swyddog Ariannu
Cymru
Swyddog Ariannu
A fyddech yn dymuno chwarae rhan allweddol mewn sicrhau cyllid hanfodol ar gyfer cadwraeth, treftadaeth, a phrosiectau cymunedol ym Mharc Cenedlaethol eiconig Arfordir Penfro?
Mae gennym gyfle cyffrous i’r ymgeisydd iawn i gynorthwyo ymdrechion Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro i godi arian. Bydd y swydd hon yn cynnwys ymchwilio i gyfleoedd ariannu, paratoi ceisiadau grymus am grant, a chynorthwyo gweithgareddau cynhyrchu incwm i helpu i gyrraedd y targed codi arian o £1 filiwn.
Heblaw hyn, bydd y swydd yn canolbwyntio ar gynnal ac ehangu’r ffrydiau incwm, meithrin cysylltiadau hirdymor â’r cyllidwyr, a chlustnodi cyfleoedd newydd i gynnal mentrau cadwraeth, treftadaeth a chymunedol o fewn y Parc Cenedlaethol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol:
• Dealltwriaeth gadarn o’r amgylchedd ariannu’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys y ffrydiau ariannu allweddol a’r blaenoriaethau.
• Gwybodaeth brofedig o'r broses ymgeisio am grant, gan gynnwys clustnodi cyfleoedd ariannu, ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus, a bodloni gofynion y cyllidwyr.
• Profiad sylweddol o gynhyrchu incwm drwy geisiadau am grant a chwrdd â’r targedau incwm neu ragori arnynt.
• Sgiliau trefnu rhagorol, sylw i fanylion, a'r gallu i reoli blaenoriaethau lu.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i ddatblygu perthynas â’r cyllidwyr, y rhanddeiliaid a’r timau mewnol.
Cymraeg llafar gan gynnwys y gallu i gwrdd a chyfarch, ac mae cyfleu profiadau o ddydd i ddydd yn hanfodol ar gyfer y swydd. Gall hyn fod yn amod y cyfnod prawf, a rhoddir pob cymorth ac anogaeth ymarferol i hyrwyddo’r gallu yn y Gymraeg o fewn y tîm.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.
Cyflog a Buddion:
• Cyflog: £31, 586 - £33,366 y flwyddyn.
• O leiaf 25 diwrnod o wyliau, yn codi i 30 diwrnod, ynghyd â gwyliau cyhoeddus.
• Cynllun pensiwn hael llywodraeth leol.
• Trefniadau gweithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac sy'n dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Ddim y cyfle iawn i chi am swydd? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws y Parc Cenedlaethol!