Parcmyn
Parcmyn dros yr Haf
Sir Benfro, Gorllewin Cymru
Parcmyn dros yr Haf – Sir Benfro
Hyd at £9.94 yr awr, llawn-amser, dros-dro, canol mis Mai tan fis Medi
Mae 4 swydd ar gael
2 x 19 wythnos 17 Mai – 24 Medi, 2 x 13 wythnos 14 Mehefin – 10 Medi
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymfalchïo yn y cyfoeth o lefydd gwych sydd yn ardal y Parc i’w harchwilio a’u mwynhau. Fel rhan o'n rhaglen ar gyfer haf 2021, rydym yn awr yn recriwtio Parcmyn dros yr Haf i weithio yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol i helpu gyda’r gwaith o ddangos yr hyn sydd gan Barc Cenedlaethol trawiadol Arfordir Penfro i’w gynnig.
Rydym yn edrych am bobl brwdfrydig ac ymrwymedig sy’n teimlo’n angerddol iawn dros Sir Benfro ac sy'n hapus i drefnu eu hamserlen eu hunain dros yr haf ac sydd wrth eu bodd wrth galon y gweithgareddau.
Byddwch yn gweithio ar y traeth ac allan o gwmpas ein trefi a'n pentrefi, a byddwch yno i helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar y Parc Cenedlaethol drwy drefnu gweithgareddau hwyl i’r teulu cyfan a rhoi cyngor ar ble i fynd a beth i'w weld. Drwy helpu pobl i ddeall yr hyn sy'n arbennig am y Parc Cenedlaethol, byddwch chi'n llawn syniadau ardderchog i gael pobl i gymryd rhan, boed yn glanhau'r traeth, yn dal crancod, yn gwylio’r sêr neu yn adeiladu castell tywod.
Y Sgiliau a’r Profiad sy’n Ofynnol;
• TGAU graddfa C neu’r cyfatebol man lleiaf mewn Saesneg/Gymraeg.
• Profiad o weithio mewn amgylchedd prysur gyda chwsmeriaid ac arwain gweithgareddau i blant a theuluoedd.
• Yn hunan-ddibynnol, yn hunan-gymhellol a hyblyg â sgiliau cyfathrebu rhagorol; yn hyderus ac yn hawdd mynd atoch ac yn gallu trefnu eich amserlen waith eich hun.
• Yn frwdfrydig dros yr amgylchedd naturiol ac am weithio gyda phobl ynghyd â gwybodaeth leol dda am Sir Benfro.
• Y Gymraeg sy’n ofynnol – 2 swydd Lefel B1/2, a 2 swydd Lefel A1/2.
• Yn meddu ar drwydded yrru lawn.
Bydd gofyn i ddeiliaid y swyddi gael gwiriad DBS.
Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac ar gael i weithio fin nos, ar y penwythnos a gwyliau cyhoeddus yn ôl yr angen - rydym am i chi fod allan ac o gwmpas lle bynnag y bydd y torfeydd!
Byddwn yn darparu cerbyd i chi a'r holl hyfforddiant, offer a chymorth fydd eu hangen arnoch a'r cyfle i weithio mewn lle arbennig iawn.