Working with Us

Current Vacancies

Addysg/Dehongli

Parcmon Cynorthwyol Tymhorol Castellmartin

Cymru

Job Ref
CSAR19324
Location
Cymru

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parcmon Cynorthwyol Tymhorol Castellmartin
Rhan Amser (15 awr yr wythnos) – Cyfnod Penodol: 13/10/2024

Mae Maes Tanio Castellmartin nid yn unig yn un o feysydd hyfforddi milwrol pwysicaf y DU lle mae tanio byw yn digwydd yn ddyddiol, ond hefyd mae’n gartref i rai o nodweddion arfordirol mwyaf gwerthfawr y Parc Cenedlaethol a’r bywyd gwyllt mwyaf prin. Mae miloedd o ymwelwyr yn ymweld â’r Maes bob blwyddyn sy’n dod i fwynhau’r clogwyni epig a’r golygfeydd ysgubol, y bywyd gwyllt ysblennydd a’r hanes a’r archaeoleg unigryw.
Mae cyfle newydd cyffrous gan y Parc i ymuno â ni fel Parcmon Tymhorol Castellmartin. Mae’r Gwasanaeth Parcmyn Castellmartin yn bartneriaeth unigryw rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Rôl y Parcmon Cynorthwyol yw ein helpu i sicrhau nad yw’r bywyd gwyllt arbennig ar y Meysydd megis adar sy’n nythu ar glogwyni a morloi, yn cael eu haflonyddu gan weithgareddau hamdden.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda dringwyr clogwyni ac ymwelwyr eraill a pherchnogion milwrol y Maes Tanio, i wneud yn siwr bod trefniadau mynediad yn rhedeg yn esmwyth, y bywyd gwyllt yn cael ei fonitro’n effeithiol, a bod ymwelwyr yn cael diwrnod gwych. Fel rhan o'r rôl, byddwch yn rhan o’r gwaith o sicrhau bod y mannau mynediad cyhoeddus i'r Meysydd Tanio yn rhydd o sbwriel ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda, tra hefyd yn cyfrannu at gynnal a chadw byrddau gwybodaeth ac arwyddion. Byddwch hefyd yn cofnodi niferoedd yr ymwelwyr a gweithgareddau ar y Meysydd ac yn cynnal arolygon cadwraeth.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
• Gwybodaeth am yr amgylchedd arfordirol.
• Sgiliau adnabod bywyd gwyllt.
• Profiad mewn rôl debyg yn yr awyr agored, cefn gwlad neu rôl amgylcheddol.
• Profiad o ddelio â'r cyhoedd/ cwsmeriaid.
• Trwydded yrru lawn, ddilys, y DU.
• Cymhwyster ôl-16 mewn pwnc perthnasol, neu brofiad gwaith perthnasol digonol.
• Y gallu i ddilyn gofynion iechyd a diogelwch.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth. Sylwer bod y rôl hon yn rôl rhan amser ar y penwythnosau yn unig. Bydd diwrnodau ychwanegol o bryd i'w gilydd i gyflenwi ar wyliau banc ac ar gyfer hyfforddiant hanfodol.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £23,500 - £23,893, pro rata, y flwyddyn, (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata), cynllun hael pensiwn llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiau Cau: 02 Ebrill 2024
Cyfweliadau i’w cynnal ddydd Mercher 17 Ebrill 2024.

Function
Addysg/Dehongli
Status
Rhan amser
Type
Contract Cyfnod Penodol
Hours
15

Share this vacancy

Gwasanaethau Ymwelwyr

Parcmon Tymhorol Gweithgareddau a Digwyddiadau

Cymru

Job Ref
AER19324
Location
Cymru

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Parcmon Tymhorol Gweithgareddau a Digwyddiadau
Llawn Amser (37 awr yr wythnos) – Cyfnod Penodol: Tua 22/04/2024 - 03/11/2024

Ydy'r syniad o weithio yn yr unig barc cenedlaethol yn y DU sy'n cynnwys tirweddau arfordirol yn bennaf yn apelio i chi? Mae cyfle newydd gan y Parc i ymuno â’n hadran Twristiaeth Adfywiol fel Parcmon Tymhorol Gweithgareddau a Digwyddiadau, yn gweithio yn rhai o leoliadau mwyaf poblogaidd a hardd Sir Benfro. Byddwch yn cynrychioli'r Awdurdod, yn cyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar gysylltu â natur a threftadaeth ddiwylliannol Sir Benfro.

Fel rhan o'r rôl byddwch yn cynllunio, yn hyrwyddo ac yn cyflwyno gweithgareddau i gynyddu mwynhad a dealltwriaeth o'r Parc Cenedlaethol tra'n creu mwy o incwm i’r Awdurdod. Byddwch yn gweithio gyda’r Rheolwr Gweithgareddau a Digwyddiadau i arallgyfeirio gwaith y tîm parcmyn tymhorol ac yn cynorthwyo’r Tîm Twristiaeth Adfywiol ehangach, gan gynnwys mewn digwyddiadau ar raddfa fwy, ac yn goruchwylio ac arwain gwirfoddolwyr.

Byddwch yn datblygu gweithgareddau i ddenu a meithrin hyder mewn cynulleidfaoedd amrywiol, gan eu galluogi i brofi a mwynhau'r awyr agored yn ddiogel. Hefyd byddwch yn creu cynnwys digidol ar gyfer marchnata a hyrwyddo, ac yn cadw cofnodion dyddiol cywir o bob gwaith a gweithgaredd. Byddwch yn cael defnyddio cerbyd yr APCAP i’ch cludo o amgylch y Parc Cenedlaethol ac ar gyfer dyletswyddau beunyddiol o ddydd i ddydd.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
• Gwybodaeth am ddibenion a rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol a brwdfrydedd dros yr amgylchedd naturiol.
• Profiad profedig mewn rôl sy'n dod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
• Angerdd dros gynnwys plant mewn dysgu drwy weithgaredd.
• Sgiliau da mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
• Y gallu i weithio'n hyblyg gan gynnwys penwythnosau, gyda’r hwyr a gwyliau banc.
• Trwydded yrru lawn y DU.

Cyfeirier at y Disgrifiad Swydd (ar gael i'w lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £23,500 i £23,893 y flwyddyn (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun hael pensiwn llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiau Cau: 02 Ebrill 2024

Function
Gwasanaethau Ymwelwyr
Status
Amser llawn
Type
Contract Cyfnod Penodol
Hours
37

Share this vacancy

Rheoli Datblygu/Gorfodi

Cynorthwyydd Gweinyddol Rheoli Datblygu

Cymru

Job Ref
DMA01324
Location
Cymru

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cynorthwyydd Gweinyddol Rheoli Datblygu
Rhan Amser (14.8 awr yr wythnos) – Parhaol

A yw chwarae rhan allweddol mewn darparu gwasanaeth effeithlon a chywir o weinyddu rheoli datblygu yn apelio i chi? Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw unig barc cenedlaethol arfordirol gwledydd Prydain, lle mae clogwyni garw yn disgyn i draethau melyn, a dyffrynnoedd coediog yn arwain at fryniau mewndirol gwyllt - mae cynllunio wrth reswm yn chwarae rhan allweddol yn ein cyfrifoldeb am y lle arbennig hwn.

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfle cyffrous newydd i ymuno â ni fel Cynorthwyydd Gweinyddol Rheoli Datblygu. Fel rhan o'r swydd hon, byddwch yn rhoi ystod lawn o gymorth technegol gan gynnwys dyletswyddau gweinyddol cyffredinol, digideiddio haenau mapiau, mewnbynnu cronfa ddata arbenigol a sicrhau ffeilio’n gywir yn electronig.

Hefyd byddwch yn ymateb i ymholiadau a cheisiadau o amrywiol ffynonellau, yn cofrestru ceisiadau cynllunio ac ymholiadau cyn-ymgeisio ac yn paratoi rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio, hysbysiadau safle a hysbysebion, tra’n cydymffurfio â deddfwriaeth Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Rydym yn chwilio am berson sydd â:
• Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da a bod yn gymwys i weithio ar Excel, gan gynnwys mewnbynnu data a digideiddio haenau mapiau.
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da a safonau uchel o gywirdeb a bod yn ddibynadwy.
• Profiad profedig o weinyddiaeth swyddfa.
• Saesneg a Mathemateg ar lefel TGAU neu gyfatebol.

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £23,500 - £23,893, pro rata, y flwyddyn (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata), cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiau Cau: 15 Mawrth 2024

Function
Rheoli Datblygu/Gorfodi
Status
Rhan amser
Type
Parhaol
Hours
14.8

Share this vacancy

Ystadau/Meysydd Parcio

Cynorthwyydd Tymhorol Meysydd Parcio

Cymru

Job Ref
CPA19324
Location
Cymru

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Cynorthwyydd Tymhorol Meysydd Parcio
Llawn Amser (37 awr yr wythnos) – Cyfnod Penodol: 31/09/2024

Ydy’r syniad o weithio yn yr awyr agored mewn rhai o leoliadau harddaf Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn apelio i chi? Mae cyfle newydd gan y Parc i ymuno â’n Tîm Datgarboneiddio fel Cynorthwyydd Meysydd Parcio.

Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn rheoli tua 40 o feysydd parcio a mannau parcio ac yn codi tâl am barcio mewn 14 ohonynt. Bydd y rôl yn cynnwys gyrru rhwng sawl safle ar draws yr Awdurdod a bod yn gyfrifol am gasglu arian o beiriannau Talu ac Arddangos. Hefyd byddwch yn didoli ac yn cysoni’r arian a gasglwyd, yn ogystal â gwneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar y peiriannau Talu ac Arddangos ynghyd â chynnal a chadw sylfaenol ar y meysydd parcio.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
• Trwydded yrru lawn, ddilys, y DU.
• Profiad o drafod arian parod a gallu da o drin rhifau ar gyfer cadw cofnodion.
• Profiad o weithio mewn rôl sy'n ymdrin â'r cyhoedd wyneb yn wyneb.
• Gallu mecanyddol a phrofiad o wneud gwaith cynnal a chadw ar beiriannau Talu ac Arddangos.
• Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, a bod yn ddibynadwy ac yn ddidwyll.

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £22,366 i £22,737 y flwyddyn (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiau Cau: 01 Ebrill 2024

Function
Ystadau/Meysydd Parcio
Status
Amser llawn
Type
Contract Cyfnod Penodol
Hours
37

Share this vacancy

Job Alerts

Can’t see the role you want? Register your details with us to be notified when we’re hiring!